Yn nhref fechan Tywyn, mae gan Clwb Hoci Dysynni cyfleoedd hoci i bawb. Ers sefydlu yn 1980, rydym wedi tyfu o gael un tîm merched yn chwarae ar gwair i dros 150 o aelodau o bob oedran a rhyw yn chwarae mewn cystadlaethau cenedlaethol a gemau cyfeillgar.
Gobeithiwn gall ein gwefan eich ysbrydoli chi i gysylltu gyda ni neu ddod draw i un o'n sesiynau. Beth bynnag eich diddordeb, chwaraewyr (hen ac iau), gwirfoddolwyr, dyfarnwyr, neu rhieni, mae croeso cynnes yn aros amdanoch chi yn ein clwb. Rydan ni hyd yn oed yn chwarae ar Ddydd Gwyl San Steffan ac ar y traeth.
Pob hwyl, Adrian Bennett, Cadeirydd CHD
Sefydlwyd Clwb Hoci Dysynni yn 1980; yn wreiddiol, roedd ein unig tîm yn cystadlu yng Nghynhrair Hoci Dyffryn Teifi a chwarae ar Cae Rhianfa. Roedd y mwyafrir o'r gemau yng Ngheredigion ac yn cael eu chwarae ar wair am lawer o flynyddoedd.
Yn 2001, adeiladwyd cae bob tywydd yn y canolfan hamdden lleol ac fe wnaeth hyn drawsnewid hoci yn yr ardal. Yn dilyn hyn, cynyddodd timau iau y clwb, hefo merched a bechgyn yn chwarae ar ochr y cae tra bod eu mamau yn ymarfer. O ganlyniad, mae ganddom adran iau sy'n tyfu, a diddordeb gan ddynion lleol i chwarae hefyd. Yn 2006, ymgeision ni tim dynion yn Ngynghrair Gogledd Cymru. Wrth i'n adran iau ddatblygu, gwelwyd aelodau yn cynrychioli Cymru yn oedranau dan 16, 18 a 21. Cododd ein tîm merched trwy rhengoedd y gynghrair, ymhen amser yn ennill y gynghrair yn 2020, ers ymuno yn 2002.
Wrth i'r clwb gyrraedd ei pumed degawd, dathlon ni hefo dau o'n chwaraewyr yn ennill capiau rhyngwladol a'n hyfforddwr Lynda Bennett yn derbyn MBE am wasanaethau i hoci yng Ngymru.
Ymlaen at y 50 mlynedd nesaf!
Mae'r Peniarth ym Mryncrug yn paratoi bwyd i ni ar ol pob gêm cartref.
Mae'r Peniarth yn fusnes teuluol, hefo llawer i gynnig; ystafell fwyta, bar, byrddau tu allan a llety. Croeso hefyd i gŵn.