Mae hyfforddwyr yn hanfodol i'r clwb, ac yn treulio oriau ar y cae ym mhob tywydd. Lynda Bennett yw ein prif hyfforddwr a mae gennym ni nifer o is-hyfforddwyr ar draws ein sesiynau. Mae croeso i ddisgyblion TGAU Addysg Gorfforol helpu mewn sesiynau ymarfer iau. Bydd y clwb yn talu am y cyrsiau hyfforddi.
Dim dyfarnwyr? Dim hoci. Felly rydan ni wastad eisiau ychwanegu at ein tîm o ddyfarnwyr. A dweud y gwir, mewn rhai gemau mae dyfarnu yn swydd eithaf amhoblogaidd. Ond mae 'na cefnogaeth ar gael gan y clwb, yn gynnwys hyfforddiant a chymhwysterau. Dydyn ni fel clwb ddim yn goddef cam-drîn dyfarnwyr. Bydd tal i ddyfarnwyr gemau cynghrair (gan fod o'n cyfrifoldeb fawr). Wrth gwrs mae'r gemau cyntaf yn gallu bod yn rhai ofnus, ond, ar ol digon o amser, mae'n deimlad braf medru helpu'r clwb. Hefyd,gyda chi bydd yr olygfa oorau o'r gêm. Felly, beth am godi chwiban?
Mae codi arian yn bwysig iawn ar gyfer gostwng y costau hyfforddiant, gemau a aelodaeth.
Tonfanau Road Racing: Mae'r clwb yn rheoli y gat i'r Rasys Ffyrdd Tonfanau. Mae hyn yn cyfrannu'n sylweddol i gronfa'r clwb. Oes ganddoch chi awr neu ddwy i'w sbario sbar ar Ddydd Sadwrn neu Sul i werthu ticedi? Bydd mwy o wybodaeth ar gael ar Facebook neu Whatsapp.
Race the Train: Mae gwirfoddolwyr o'r clwb yn helpu gyda parcio ceir Ras y Trên y Rheilffordd Talyllyn, pob Mis Awst.
Y pwyllgor yw sylfaen y clwb, ac mae'n cynnwys chwaraewyr, rhieni, hyfforddwyr a dyfarnwyr sy'n ceisio llywio'r clwb ar hyd y trywydd cywir. Mae croeso cynnes i unrhywun sydd eisiau cymryd rhan a bydd dim pwysau i wneud llawer o waith. Y peth pwysicaf yw fod gennym ni grŵp o bobl gyda barn amrywiol, dadl adeiladol ac egwyddorion arweiniol sydd yn gwasanaethu ein haelodau a'n rhanddeiliaid. Mae croeso i aelodau'r clwb ddod i'n cyfarfodydd ac ymuno â ni os hoffech. Mae'r cyfarfodydd yn hwyl, wir i chi!
Darganfyddwch mwy o wybodaeth ar dudalen y Pwyllgor.
Mae ein sgwad newydd, Sgwad y Bibs, sy'n gyfrifol olchi ein bibs.
Hoffech chi fod yn ran o'r rota? Gallwch gofrestru i olchi un set o fibs y mis, tymor neu flwyddyn drwy'r ffurflen yma.
* Aelodaeth wedi cau - rota yn llawn - DIOLCH*