Mae Clwb Hoci Dysynni yn glwb cyfeillgar a lewyrchus wedi'i leoli yn Nhywyn. Rydym yn adnabyddus am ein llwyddianau ar y cae a mae mae ganddom cyfleoedd hoci i bawb. Ers ein sefydliad yn 1980, rydym wedi tyfu o gael un tîm merched yn chwarae ar wair, i dros 150 o aelodau o bob oedran, yn chwarae mewn cystadlaethau cenedlaethol a gemau gyfeillgar. Os ydych chi'n newydd i'r gêm, newydd i'r ardal neu'n chwaraewr profiadol sydd eisiau ymuno â'r clwb, gyrrwch neges atom!
Mae ein dau dîm merched yn cystadlu yn Nghynghrair Gogledd Cymru, Cwpan Hoci Cymru a Chynghrair Dan Do De Cymru.
Mae'n tîm dynion hefyd yn cystadlu yn Nghwpan Hoci Cymru a Chyngrhair Dan Do De Cymru, yn ogystal â chwarae gemau gyfeillgar.
Mae ganddom adran iau lewyrchus sy'n cynnwys blant dan 10 i dan 16. Maent yn hyfforddi bob wythnos ac yn chwarae mewn cystadlaethau drwy'r flwyddyn.