Mae gennym ni dau dîm merched, sgwad dynion a thimau iau o blwyddyn 2 i 12:
Capten: Ela Pugh
Is-Gapten: Siân Williams
Cynghrair: North Wales Women's Hockey League - Division 1
Yn ogystal â'r gynghrair, mae'r Tîm 1af yn cystadlu yn y Troffi Hoci Cymru â'r Gynghrair Dan Do De Cymru. Mae'r merched yn ymarfer ar nos Mawrth 7:30pm-9pm a mae croeso i bob oedolyn dod i Hoci Cymdaethasol ar nos Lun 6-7pm.
Capten: Lynda Bennett
Is-Gapten: Sue Williams
Cynghrair: North Wales Women's Hockey League - Development
Mae'r Tîm 2il yn chwarae yn y gynghrair datblygiadol. Gall tîmau yn y gynghrair yma cynnwys dim ond dau chwaraewyr dros 18 mlwydd oed ar y cae ar y tro, felly mae'n cyfle da i magu hyder a gwellhau sgiliau ei'n chwaraewyr iau. Fydd y dîm hefyd yn chwarae yn y cgystadleuaeth Her Hoci Cymru. Mae'r merched yn ymarfer ar nos Mawrth 7pm-8pm a mae croeso i bob oedolyn dod i Hoci Cymdaethasol ar nos Lun 6-7pm.
Capten: Rhys Hughes
Is-gapten: Ryan Goddard
Rheolwr: Sue Williams
Mae'r sgwad dynion yn cystadlu yn y Cwpan Hoci Cymru a'r Cynghrair Dan Do De Cymru, yn ogystol â gemau a chystadlaethau gyfeillgar. Mae'r dynion yn ymarfer ar nos Mawrth 7:30pm-9pm a mae croeso i bob oedolyn dod i Hoci Cymdaethasol ar nos Lun 6-7pm.
Yn ystod amser tymor, mae'na sesiynau ymarfer i blant dan 10, 12 a dan 14, hefo sesiynau dan do a ymarfer hŷn ar gyfer plant blwyddyn 10 i 12.
Mae yna cystadlaethau a gemau trwy'r tymor yn erbyn timau gwahanol o ogledd Cymru.
Mewn unrhyw gêm, mae yna 3ydd tîm ar y cae: y dyfarnwyr. Rydyn ni'r hynod o diolchgar i'n dyfarnwyr sydd yn gweinyddu ein gemau cartref ac oddi-gartref am ein timau hŷn ac iau.
Diolch enfawr i Adrian, Lynda, Will, Andy, Crona, Sam, Catrin, Amelia a Spencer.