Mae'n rhaid i bob chwaraewr lenwi y ffurflen aelodaeth Dysynni isod. Mae hyn yn berthnasol i bawb sy'n ymwneud â hoci hefo Dysynni; chwaraewyr iau neu hŷn, cymdeithasol neu chystadleuol, hyfforddwyr a chynorthwywyr. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gennym wybodaeth gyswllt argyfwng gyfredol, ac unrhyw wybodaeth bwysig arall sydd ei hangen arnom am ein chwaraewyr. Hefyd, mae chwaraewyr angen aelodaeth Hoci Cymru am yswiriant ar gyfer chwarae. Ni fydd yna tâl aelodaeth clwb flwyddyn yma.
Fel clwb, rydym yn ymwybodol y gall cost hoci fod yn lwyth ychwanegol i rhai pobl, sydd yn atal pobl a phlant rhag chwarae. Os mae hyn yn berthnasol i chi, cysylltwch â Lynda (trysorydd a hyffordwr) i adael i ni helpu chi. Byydd hyn, yn naturiol, yn gyfrinachol; gall hyn fod yn fater sensitif. Ni ddylai unrhywun ein golli ar cyfleoedd hoci ac mae CH Dysynni yn un teulu mawr lle mae pawb yn edrych allan am ei gilydd. Peidiwch ag oedi, os rydych chi angen help, does dim ond angen gofyn. Hefyd, mae cymorth arianol ar gael o Ffrindiau Hoci Cymru, Ymddiriedolaeth Cofio Robin a Ymddiriedolaeth Dr Daniel Williams .
Fel arfer, anfonwn ni dylebion am costau ymarfer a gemau pob 10 wythnos.
Cost ymarfer: Gwelwch y dudalen Calendr a Sesiynau am cost pob sesiwn.
Cost gêm: £5 cartref neu oddi-gartref. Fydd gyrrwyr sy'n rhoi lifft i mwy nag un chwaraewr yn derbyn arian petrol.
Mae Clwb Hoci Dysynni yn ynwybodol bod perygl anochel wrth chwarae hoci. Rydym yn disgwyl fod pob chwaraewr yn dilyn y rheolau isod wrth chwarae, ymarfer a chynhesu:
Bod yn ymwybodol o diogelwch chwaraewyr eraill
Gwisgo cyfarpar diogelu personol addas
Gwrando ar gyfarwyddiadau yr hyfforddwr
Gosod esiampl da i chwaraewyr iau o sut i ymddwyn a siarad wrth chwarae
Cymryd cyfrifoldeb personol i osgoi perygl di-angen i ein hunain a phawb arall
Wrth ymarfer saethu, dylid ymarfer i ffwrdd o fynedfa'r cae, gan wynebu cae'r ysgol
Mae pecyn cymorth cyntaf ar gael yn ystod pob gêm a sesiwn ymarfer. Os mae chwaraewr wedi anafu neu'n teimlo'n sâl, mae'n rhaid iddynt adael i'r hyfforddwr neu capten wybod. Mae gan yr hyfforddwyr a rhai chwaraewyr hyfforddiant cymorth cyntaf.
Hefyd, mae gan y clwb diffibriliwr(AED). Bydd diffibriliwr yn y "sied" yn ystod gemau cartref a sesiynau ymarfer, a bydd yn teithio gyda'r timau i gemau oddi-cartref. Os mae gemau yn gwrthdaro, bydd y diffibriliwr yn mynd i'r digwyddiad hefo'r nifer mwyaf o bobl. Os yw'r diffibriliwr yn y sied, bydd arwydd fel yr un ar y chwith ar y drws. Fel arall, mae gan y ganolfan hamdden diffibriliwr.
Fel aelod y clwb, mae disgwyl i chi ymddwyn yn ol y canllawiau isod:
Mwynhau
Dysgu a chwarae y gêm wrth dilyn y rheolau hoci
Chwarae hefo uniondeb, angerdd ac ymrwymiad
Cymryd cyfrifoldeb personol am eich gweithredau
Chwarae gydag ysbryd teg: enill a cholli hefo urddas, gan gymeradwyo hoci da pob tîm
Cynrychioli y clwb mewn ffordd positif o hyd
Mynychu sesiynau ymarfer yn rheolaidd a gweithio'n galed trwy'r sesiwn.
Gadael i'r hyffordwr gwybod os mae'n rhaid i chi adael yn gynnar
Gwisgo cit addas: rhaid gwisgo shinpads mewn sesiynau ymarfer a gemau. Rydyn ni'n argymell yn gryf i chwaraewyr gwisgo gumshield
Edrych yn daclus, hefo'r gwisg Dysynni cywir ar gyfer gemau
Cadw i'r amseroedd ymarfer a gadael i'r hyfforddwr/capten/rheolwr wybod os ydych chi am fod yn hwyr neu ddim yn gallu dod.
Hysbysu'r capten os ydych chi ar gael neu ddim ar gyfer y gemau. Gadael i'r capten wybod mor gynnar â phosib os mae unrywbeth yn newid.
Peidiwch ag annwybyddu phoenau - os ydych chi wedi anafu, dwedwch wrth y capten more gynnar â phosib.
Cyrraedd gemau yn ddigon cynnar i gynhesu yn gywir - gall cynhesu atal anafiad
Trin pawb (gan gynnwys y tîm gwrthwynebol) fel y fyddwch chi'n disgwyl cael eich trin, ar y cae ac ar ochr y cae.
Trin y dyfarnwyr hefo parch cyn, yn ystod ac ar ol y gêm. Bydd unrhyw chwaraewr sy'n dadlau hefo dyfarnwyr yn cael ei cyfeirio at y pwyllgor.
Ar ol y gêm, mae'n rhaid ysgwyd dwylo hefo'r tîm gwrthwynebol, a dweud diolch i'r dyfarnwyr a'ch capten.
Annog chwaraewyr i werthfawrogi eu perfformiad ac nid dim ond y canlyniad. Peidiwch â beirniadu eich cyd-chwaraewyr - gall unrhyw chwaraewr cael gêm wael
Talu unrhyw ffi erbyn y dyddiad
Croesawu aelodau newydd
Helpwch i feithrin amgylchedd clwb sy'n annog creadigrwydd trwy weithio fel tîm
Byddwch yn ymroddedig i amrywiaeth, triniaeth deg, parch at eich gilydd ac ymddiried yn eich tîm a'r clwb
Mwynhau
📄 Hoci Cymru Rheoliadau Cystadlaethau