Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi partneru â VX3 i fod yn gyflenwr cit newydd i ni. Bydd cit Dysynni (heblaw am crysau chwarae) ar gael i'w prynu unrhyw bryd trwy siop ar wefan VX3, a byddant yn cael eu danfon yn syth atoch. Bydd siop cit y clwb ar gael yn fuan.
Rhaid archebu crysau chwarae mewn swmp, felly bydd ffenestri archebu drwy gydol y flwyddyn pan fydd digon o ddiddordeb.
Gallech chi prynu sannau ar unrhyw bryd.
Mae gumshields Dysynni ar gael yma.
Bydd y siop ar agor yn yr hydref ac weithau yn ystod y tymor os oes diddordeb.
Ar gyfer y sesiynau ymarfer, bydd angen i chwaraewyr gwisgo dillad sydd yn addas ar gyfer ymarfer corff a'r tywydd.
Ar gyfer cystadlaethau a gemau, bydd chwaraewyr angen crys, siorts/skort, a sanau Dysynni o'r catalog uchod. Mae'n bosib menthyg y cit yma o'r clwb, os nad yw eich cit wedi cyrraedd mewn amser.
Hefyd, mae chwaraewyr angen ffon hoci a shinpads. Rydan ni yn argymell gwisgo gumshield.
Os nad ydych chi wedi archebu cit o'r blaen, fyddwn yn aseinio rhif crys ar ol i chi archebu. Ni fydd eich rhif yn newid tra byddwch chi'n aelod o'r clwb.